Gwaith Chwarae Cymru
Canolfan Genedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae
Pam yr ydym ni yma? Rydym yn cefnogi gwasanaethau o ansawdd i blant trwy hyrwyddo hyfforddiant ac addysg o ansawdd ac yn datblygu cymwysterau ar gyfer y rheiny sydd a diddordeb mewn chwarae plant.
Rydym yn hyrwyddo statws a chydnabyddiaeth gwaith chwarae fel gyrfa.
Pwy ydym yn cydweithio â nhw? Gweithwyr statudol, gwirfoddol a phreifat a chyflogwyr ym mhob gwasanaeth sy'n darparu chwarae plant... mewn partneriaeth â SkillsActive, sef y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Hamdden a Dysgu Gweithredol.
Beth allwn ni ei wneud i chi?
- Gallwn eich cynorthwyo i ymgorffori dysgu a sgiliau gwaith chwarae yn eich gwasanaeth
- Gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a'ch cynorthwyo i gael cylliad at gyfer addysg a hyfforddiant mewn chwarae a gwaith chwarae
- Gallwn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau trwy hwyluso'r gwaith o gydgomisiynu rhaglenni dysgu
Mwy am Gwaith Chwarae Cymru ar hyn y byddwn yn ei wneud
Gwaith Chwarae
Y tueddiad yw, nad oes gan blant y rhyddid i fynd allan i rodio a chwarae fel y byddent ers talwm. Ceir nifer cynyddol o fannau chwarae gaiff eu staffio gan weithwyr chwarae - y tu mewn a'r tu allan - sy'n rhoi rhyddid a chyfleoedd i blant chwarae, na fyddent yn eu cael fel arall.
English